EWROP A HAWLIAU IEITHYDDOL: rhaid gweithredu yn 2004!
Bydd y flwyddyn 2004 yn gweld ehangu'r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal ag etholiadau i Senedd Ewrop. Serch hynny, mae’r broblem iaith yn parhau heb ei datrys, wedi ei chuddio dan y ffug-amrywiaeth ieithyddol sy’n pleidio’r tair iaith fwyaf grymus. O ganlyniad, mae perygl inni wynebu goruchafiaeth yr ieithoedd hynny, a gorfodi un iaith yn y pen draw. Byddai hyn yn cael effaith andwyol iawn ar wir amrywiaeth ieithyddol Ewrop. Dyna pam mae Esperantwyr, ymhlith eraill, o blaid iaith gyffredin, niwtral (ond ni unigryw) a fyddai’n parchu pob iaith, gan sicrhau effeithlonrwydd democratiaeth yn Ewrop.
Am hynny, trefnir ardystiad ar draws Ewrop dros ddemocratiaeth ieithyddol Ewropeaidd. Prif nod y weithred yw tynnu cymaint o sylw â phosibl, trwy’r cyfryngau yn enwedig, at bwnc yr iaith yn Ewrop, gan godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r broblem ... yn y gobaith o ysgogi’r gwleidyddion i weithredu. I gyflawni’r nod hwn, rhaid wrth gynifer ohonom â phosibl, o gefndiroedd diwylliannol mor amrywiol â phosibl, i ddwyn y maen i'r wal. Syniad yw hwn a ddeilliodd ymhlith Esperantwyr, a bydd pob clwb a chymdeithas Esperanto yn Ewrop yn lledaenu'r neges yn eu hardaloedd a’u gwledydd.
Enw’r ymgyrch yw EUROPA BUNTO, sy’n golygu "caleidosgop Ewrop". Mae’r enw yn awgrymu’r elfen o ddathlu lliwgar yn y gwrthdystiad hwn dros amrywiaeth ieithyddol.
Bydd y gwrthdystiad hwn yn dod â’r canlynol ynghyd:
Lle: Strasbwrg (Ffrainc), wrth Senedd Ewrop a Chyngor Ewrop
Dyddiad: Sul 9 Mai 2004 (Diwrnod Ewrop)
Ffurf: dewis agored o ran ieithoedd ar faneri; dewis agored o ran cynnwys baneri (o barch i’r datganiad ar iawnderau dynol a dinasyddion Ewropeaidd)
Gwasanaeth Gwybodaeth: cynhadledd i'r wasg gyda chynrychiolaeth gyfartal i bob iaith; gwasanaeth cyfieithu ar gyfer pob iaith a gynrychiolir
CYNNWYS Y WEFAN HON
Prezento (cyflwyniad): cyflwyniad cyffredinol i'r gwrthdystiad a’r safle, mewn llawer o ieithoedd Ewropeaidd.
Partneraj asocioj (cymdeithasau partner): rhestr o'r cymdeithasau (ynghyd â chyswllt â’u gwefannau lle bo modd) sydd wedi datgan eu bod yn cymryd rhan yn y digwyddiad.
Kunveturado (rhannu car): rhestr o bobl yn cynnig ac yn ceisio rhannu car i deithio i Strasbwrg ar gyfer y digwyddiad.
Sloganoj & materialo (sloganau a deunyddiau): rhestr o awgrymiadau am sloganau a baneri at y gwrthdystiad, a dulliau eraill o dynnu sylw.
Dissendolisto (rhestr i’w dosbarthu): rhestr o bethau i'w trafod ar gyfer trefnwyr y gwrthdystiad; prif iaith ymarferol y rhestr hon fydd Esperanto ac mae croeso ichi danysgrifio trwy yrru neges wag at europa-2004-subscribe@yahoogroupes.fr.
Kontakto (cysylltiadau): manylion cyswllt am holi’r trefnwyr ("organizantoj") neu’r ysgrifennydd sy’n gyfrifol am y digwyddiad ("sekretario") neu am yrru cynigion ac awgrymiadau (rhannu car, sloganau, ayb) at drefnydd y wefan ("TTT-estro").
Ligoj (dolenni): dolennau â safleodd a ieithoedd Ewropeaidd
(tradukis kimren : Robin Chapman)